The tradition & historical record
2 min read · 2 sourcesY corff o weithiau dramataidd Saesneg sydd yn dyddio o gyfnod yr Adferiad yn Lloegr yw theatr yr Adferiad. Mae'n ffurfio rhan o lên ehangach yr Adferiad. Digwyddodd yr Adferiad ei hun ym 1660, a châi diwedd cyfnod theatr y Adferiad ei ddyddio naill ai i'r Chwyldro Gogoneddus ym 1688, i derfyn y ganrif ym 1700, neu i ddiwedd brenhinllin y Stiwartiaid ym 1716. Wedi i Siarl II gael ei goroni yn 1660, gan adfer y frenhiniaeth yn Lloegr a dod â'r Werinlywodraeth i ben, llaciwyd ar y deddfau piwritanaidd yn erbyn mynegiant gwleidyddol a chrefyddol, ac roedd llenorion yn hawlio rhyddid creadigol unwaith eto ar ddychan a'r ddrama. Blodeuai oes o ffraethineb a gogan brathog yn llenyddiaeth Saesneg a barodd am ganrif gyfan, gyda chyfnod y ddrama Awgwstaidd yn dilyn theatr yr Adferiad. Daeth y ddrama gomedi yn hynod o boblogaidd, yn enwedig y gomedi foesau, yn ogystal â dramâu arwrol dan ddylanwad newydd-glasuriaeth y theatr Ffrengig. Ymhlith y prif ddramodwyr gellir enwi George Etherege (1636–92), William Wycherley (1641–1716), Syr John Vanbrugh (1664–1726), a William Congreve (1670–1729). Dramodydd arall o nod ydy Aphra Behn (1614–89), o bosib y fenyw gyntaf yn hanes Ewrop i ennill ei thamaid drwy ysgrifennu. 1
Darllen pellach
Fidelis Morgan, The Female Wits: Women Playwrights on the London Stage, 1660–1720 (Llundain: Virago, 1981). Margaret Sherwood, Dryden's Dramatic Theory and Practice (Efrog Newydd: Haskell, 1965). Montague Summers, Restoration Theatre (Efrog Newydd: Humanities Press, 1964). 1
The text above is adapted from the Wikipedia article “Theatr yr Adferiad”, available under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 licence. 1
Restoration theatre is the body of dramatic works dating from the Restoration period in England, according to the structured record cited below. This entry was generated automatically from that record and has not yet been reviewed by a person familiar with the tradition. 2









